Compost and wormeries / Compost ac abwydfeydd

Compost and wormeries / Compost ac abwydfeydd

4th Sep 2019 6:30pm - 9pm

Buy Compost and wormeries / Compost ac abwydfeydd Tickets

Adult ticket with donation
E-Ticket
£14.00 + £1.00 handling
Adult ticket
E-Ticket
£11.00 + £1.00 handling

Event Details

Use up scraps and make free food for your plants as we explore simple, low-cost ways to make compost and plant feed in even very small gardens. 

In this workshop you’ll learn how to set up and care for different kinds of garden composting systems and understand the needs of plants to mix up your own feeds and fertilisers. We’ll show you how to start composting with worms and you’ll learn to harvest your wormery and prevent common problems. 

About your tutor: Hannah from Green Squirrel is an enthusiastic home composter and friend of worms. 

Accessibility: Please note that our workshop venue is downstairs at Little Man Coffee, please get in touch when you book if this poses a problem for you and we will make plans to ensure you’re able to attend and be comfortable. Please let us know if we can make any other accommodations to help you enjoy the workshop.

Free places: We try to keep ticket prices as low as possible so that our workshops are affordable and accessible. If you’d like to attend but the ticket price is preventing you then please get in touch as we have a limited number of free spaces available on each workshop; you won’t be asked to provide any further information but we do ask people to contact us to ensure free spaces are fairly distributed.

Contact Hannah@greencityevents.co.uk

Other venues: If you’re interested in holding this workshop for your organisation or at another venue then please get in touch for a chat.

We are very grateful for the support of the Community Fund.

------------------------------------------------

Defnyddiwch weddillion a gwnewch fwyd am ddim i'ch planhigion wrth i ni archwilio ffyrdd syml, rhad o wneud compost a bwyd planhigion mewn gerddi bychain iawn hyd yn oed.

Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu sut i sefydlu a gofalu am wahanol fathau o systemau compostio yn yr ardd a deall anghenion planhigion i gymysgu eich bwydydd a gwrteithiau eich hun. Byddwn yn dangos i chi sut i ddechrau compostio gyda phryfed genwair a byddwch yn dysgu i gynaeafu eich abwydfa ac atal problemau cyffredin.

Ynglŷn â'ch tiwtor: Mae Hannah o Green Squirrel yn gompostwraig cartref o fri ac yn frwd dros bryfed genwair.

Hygyrchedd: Noder bod ein gweithdy i lawr y grisiau yn Little Man Coffee, cysylltwch pan fyddwch yn archebu lle os bydd hyn yn peri problem i chi ac fe wnawn gynlluniau i sicrhau y gallwch fynychu a bod yn gyfforddus. Rhowch wybod i ni os gallwn wneud unrhyw gymwysiadau eraill i'ch helpu chi fwynhau'r gweithdy.

Llefydd am ddim: Rydym yn ceisio cadw prisiau mor isel â phosibl fel bod ein gweithdai yn fforddiadwy a hygyrch. Os hoffech fynychu ond mae pris y tocyn yn eich atal chi, yna cysylltwch gan fod gennym nifer cyfyngedig o lefydd am ddim ar gael ar gyfer bob gweithdy; ni fydd gofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth ond gofynnwn i bobl gysylltu â ni i sicrhau bod y llefydd am ddim yn cael eu dosbarthu'n deg.

Cysylltwch â Hannah@greencityevents.co.uk

Lleoliadau eraill: Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal y gweithdy hwn ar gyfer eich sefydliad neu mewn lleoliad arall yna cysylltwch am sgwrs.

Rydym wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth y Gronfa Gymunedol.