Virtual grow along with Liz Zorab! / Rhith-dyfu gyda Liz Zorab

Virtual grow along with Liz Zorab! / Rhith-dyfu gyda Liz Zorab

17th Jun 2021 6:30pm - 8pm
Greenwich Mean Time

This is a live-stream event

Add to Calendar
2021-06-17 18:30:00 2021-06-17 20:00:00 Europe/London Virtual grow along with Liz Zorab! / Rhith-dyfu gyda Liz Zorab Live virtual stream event

Tickets

Ticket plus seed selection
£5.00 + £1.00 fee

Sale Ended

Standard ticket
£3.00 + £1.00 fee

Sale Ended

FREE ticket
Free + Free fee

Sale Ended

Event Details

Join us for an extra special virtual grow along with special guest Liz Zorab from Byther Farm! 

Our celebration grow along theme is all about making mistakes in the garden - we all do it, even Liz Zorab, and despite the frustration it can bring, it means we are always learning and can plan better for the future. So let’s get together and learn from each other's mistakes and make our gardens, and ourselves happier and healthier!

Liz and her partner Mr J live in Monmouthshire on a 0.8 acre homestead and have created a beautiful and productive food forest and vegetable garden. Liz’s gardens produce approximately 85% of the food and drink consumed at their kitchen table and has been created using permaculture principles

Our friendly grow alongs are an opportunity to pick up new skills, share tips and connect the growing community across Cardiff and beyond. Whether you are brand new to growing or have lots of experience we’d love you to join us. You can choose a free ticket, make a donation or even choose to be sent some seeds in the post.

This event is part of our Green Squirrel celebration - a four day extravaganza of virtual and in person events to celebrate, and thank everyone who has played a part in our work and to bring our community closer together as we embark on an exciting new project. We are very grateful for the support of the Community Fund.

About the session:

This will be a friendly and informal zoom session and everyone is welcome. Feel free to join whilst you're eating your tea or hanging out with your kids! We will send you an email the week prior to the event with all the info you need to join us live. We will begin the session with a quick introduction to using zoom so that you feel comfortable taking part and asking questions.

Ticket prices and free places: 

We want our events to remain affordable and accessible so we will always reserve a number of free places for those that find the price prohibitive - no catches, no questions, we trust you and want to support you to learn new skills.

- - - - - - - - - - - -

Ymunwch â ni am sesiwn ‘rhith-dyfu gyda’n gilydd’ hynod o arbennig yng nghwmni ein gwestai arbennig Liz Zorab o Byther Farm!

Mae a wnelo ein thema ar gyfer y sesiwn hon â gwneud camgymeriadau yn yr ardd – mae pob un ohonom yn gwneud camgymeriadau, hyd yn oed Liz Zorab, ac er gwaethaf y rhwystredigaeth mae’n golygu ein bod wastad yn dysgu ac y gallwn gynllunio’n well ar gyfer y dyfodol. Felly, beth am inni ddod ynghyd er mwyn i’r naill allu dysgu ar sail camgymeriadau’r llall, a gwneud ein gerddi – a ni ein hunain – yn hapusach ac yn iachach!

Mae Liz a’i phartner Mr J yn byw ar fferm 0.8 acer yn Sir Fynwy, ac maen nhw wedi creu gardd lysiau a choedwig fwyd hardd a chynhyrchiol. Mae gardd Liz yn cynhyrchu oddeutu 85% o’r bwyd a’r ddiod a fwyteir ac a yfir wrth fwrdd y gegin, a chafodd ei chreu trwy ddefnyddio egwyddorion permaddiwylliant. 

Mae’r sesiynau cyfeillgar hyn yn gyfle ichi ddysgu sgiliau newydd, rhannu awgrymiadau a chysylltu’r gymuned dyfu trwy Gaerdydd a thu hwnt. Pa un a ydych yn newydd sbon i dyfu neu’n brofiadol iawn, byddem wrth ein bodd pe bai modd ichi ymuno â ni. Gallwch ddewis tocyn am ddim, gallwch roi cyfraniad ariannol neu gallwch hyd yn oed ofyn inni anfon rhywfaint o hadau atoch trwy’r post.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ddathliad y Wiwer Werdd – strafagansa bedwar diwrnod yn llawn rhith-ddigwyddiadau a digwyddiadau yn y cnawd i ddathlu a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith, a dod â’n cymuned yn nes at ei gilydd wrth inni gychwyn ar brosiect newydd cyffrous. Diolch o galon i’r Gronfa Gymunedol am ei chymorth.

Ynglŷn â’r sesiwn:

Sesiwn zoom gyfeillgar ac anffurfiol fydd hon, ac mae croeso i bawb gymryd rhan ynddi. Beth am ymuno â ni tra byddwch yn bwyta eich swper neu’n treulio amser gyda’ch plant! Wythnos cyn y digwyddiad, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda’r holl wybodaeth y byddwch ei hangen i ymuno â ni’n fyw. Byddwn yn dechrau’r sesiwn trwy esbonio’n sydyn sut i ddefnyddio zoom, er mwyn ichi deimlo’n gyfforddus wrth gymryd rhan a gofyn cwestiynau.

Prisiau’r tocynnau a llefydd am ddim:

Rydym eisiau i’n digwyddiadau barhau i fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch, felly byddwn bob amser yn neilltuo nifer o lefydd am ddim ar gyfer pobl sydd o’r farn fod y pris braidd yn ddrud iddynt – dim triciau, dim cwestiynau, rydym yn eich coelio ac rydym eisiau eich helpu i ddysgu sgiliau newydd.