Railway Gardens summer celebration / Dathliad haf Gerddi’r Rheilffordd

Railway Gardens summer celebration / Dathliad haf Gerddi’r Rheilffordd

19th Jun 2021 12:30pm - 3:30pm
Greenwich Mean Time
Add to Calendar
2021-06-19 12:30:00 2021-06-19 15:30:00 Europe/London Railway Gardens summer celebration / Dathliad haf Gerddi’r Rheilffordd End of Adeline Street, Splott, Cardiff, CF24 2DH

Tickets

Standard ticket
£3.00 + £1.00 fee

Sale Ended

FREE ticket
Free + Free fee

Sale Ended

FREE Virtual ticket
Free + Free fee

Sale Ended

Event Details

Join us as we throw open up the gates to the Railway Gardens site for a fantastic summer celebration!

We are super excited to invite you to our first summer celebration at Railway Gardens in Splott. Over the next three years we will transform this disused piece of land into a thriving community space with shipping container work spaces, growing spaces, solar powered toilets, beehives and lots more!

But before the site development begins we want to welcome our community and host a special event, collaborating with lots of lovely local groups and organisations. We’ll be giving away locally grown veg and herb plants, borrowing with Benthyg, fixing stuff with Repair cafe Wales, growing with Stargarallot, hosting a Splo-down food co-op pop up and loose parts scrap play with Play Wales. We'll also be hosting a pop up food stall run by the awesome folk at Oasis featuring tasty sweet and savoury snacks to keep us all well filled for the fun.We can't wait to see you there - it’s set to be lots of fun for all!

Keeping everyone safe

We are of course very happy to be able to host an in person event again but we want to ensure we keep our community safe. Please be aware that we will be allowing a limited number of people on site at one time so we may need to ask you to queue for a short time. Our friendly volunteers will be at the gate to welcome you and keep you informed of any Covid regulations that apply to our celebration.

So don’t forget to sign up for a free ticket (or make a donation) and we’ll send you all the info you need to attend our event safely.

Want to get involved but not ready to attend in person events yet?

We understand that many of our community members may not be ready to join in person events so to keep everyone included we are hoping to livestream some of the celebration and share those links. If you would prefer to join the event virtually then sign up for a virtual ticket and we’ll send you the link to join.

This event is part of our Green Squirrel celebration - a four day extravaganza of virtual and in person events to celebrate, and thank everyone who has played a part in our work and to bring our community closer together as we embark on an exciting new project. We are very grateful for the support of the Community Fund.

- - - - - - - - - - - 

Ymunwch â ni wrth inni agor clwydi safle Gerddi’r Rheilffordd i gael dathliad haf heb ei ail!

Rydym yn llawn cyffro o gael eich gwahodd i’n dathliad haf cyntaf yng Ngerddi’r Rheilffordd yn Sblot. Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn yn trawsnewid y tir diffaith hwn yn fan cymunedol lle ceir mannau gweithio mewn cynwysyddion llongau, mannau tyfu, toiledau solar, cychod gwenyn a llawer mwy!

Ond cyn i’r gwaith datblygu ddechrau, hoffem wahodd ein cymuned i gynnal digwyddiad arbennig, gan gydweithio gyda llu o fudiadau a grwpiau lleol gwych. Byddwn yn dosbarthu perlysiau a llysiau a dyfwyd yn lleol yn rhad ac am ddim, bydd Benthyg yno i gynnig ei wasanaethau, byddwn yn trwsio pethau gyda’r Caffi Trwsio, byddwn yn tyfu gyda Stargallot, byddwn yn cynnal siop dros dro gyda Chydweithfa Fwyd Splo-down, a byddwn yn chwarae gyda darnau rhydd yng nghwmni Chwarae Cymru. A chan fod rhai gwesteion eraill eto i’w cadarnhau, mae’n argoeli’n dda ar gyfer digwyddiad llawn hwyl a sbri i bawb!

Cadw pawb yn ddiogel

Wrth gwrs, rydym yn hapus dros ben o allu cynnal digwyddiad yn y cnawd, ond rydym eisiau sicrhau ein bod yn cadw ein cymuned yn ddiogel. Dim ond nifer cyfyngedig o bobl a ganiateir ar y safle ar unrhyw adeg, felly efallai y byddwn yn gofyn ichi aros mewn ciw am dipyn. Bydd ein gwirfoddolwyr cyfeillgar wrth y glwyd i’ch croesawu ac i roi gwybod ichi am unrhyw reoliadau Covid sy’n berthnasol i’n dathliad.

Felly, cofiwch gofrestru am docyn rhad ac am ddim (neu wneud cyfraniad ariannol). Yna, byddwn yn anfon yr holl wybodaeth angenrheidiol atoch er mwyn ichi allu mynychu ein digwyddiad yn ddiogel.

Awydd cymryd rhan, ond ddim yn barod eto i fynychu yn y cnawd?

Sylweddolwn na fydd nifer o aelodau ein cymuned yn barod eto i ymuno â digwyddiadau yn y cnawd, felly er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys rydym yn gobeithio ffrydio rhannau o’r dathliad yn fyw a rhannu’r dolenni hynny. Os yw’n well gennych ymuno â’r digwyddiad mewn modd rhithwir, cofrestrwch am rith-docyn ac yna byddwn yn anfon y ddolen ymuno atoch.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ddathliad y Wiwer Werdd – strafagansa bedwar diwrnod yn llawn rhith-ddigwyddiadau a digwyddiadau yn y cnawd i ddathlu a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith, a dod â’n cymuned yn nes at ei gilydd wrth inni gychwyn ar brosiect newydd cyffrous.

Diolch o galon i’r Gronfa Gymunedol am ei chymorth.