Green Squirrel gathering / Ymgynnull â’r Wiwer Werdd

Green Squirrel gathering / Ymgynnull â’r Wiwer Werdd

19th Jun 2021 6:30pm - 9pm
Greenwich Mean Time
Add to Calendar
2021-06-19 18:30:00 2021-06-19 21:00:00 Europe/London Green Squirrel gathering / Ymgynnull â’r Wiwer Werdd Unit B, Rhymney River Bridge Rd, Cardiff, CF23 9AF

Tickets

FREE Virtual ticket
Free + Free fee

Sale Ended

FREE ticket
Free + Free fee

Sale Ended

Standard ticket
£10.00 + £1.00 fee

Sale Ended

Event Details

Join us in the ultimate urban garden for an evening of supper, stories and singing.

We are delighted to invite you to a very special Green Squirrel gathering in the creative urban garden at Spit and Sawdust skatepark. Let’s take some time to gather together as we reflect on the past and look forward to future hopes and possibilities.

During the evening you’ll be treated to delicious wood fired pizza from Spit and Sawdust, a selection of stories from our storyteller Tamar, a live cooking demo from Lia of Lia’s kitchen and wonderful singing and performance from Oasis World Choir.

We have limited tickets available to grab yours fast and if you choose, make a donation to support another community member to attend free of charge.

Keeping everyone safe

We are of course very happy to be able to host an in person event again but we want to ensure we keep our community safe. Please be aware that this event has very limited numbers and will adhere to all Covid safety measures.

Our friendly volunteers will be there to welcome you and keep you informed of any Covid regulations that apply to our event, plus you’ll receive an email prior to the event with all the information you need to attend safely.

Want to get involved but not ready to attend in person events yet?

We understand that many of our community members may not be ready to join in person events so to keep everyone included we are hoping to livestream some of the gathering and share the link. If you would prefer to join the event virtually then sign up for a virtual ticket and we’ll send you the link to join.

Ticket prices and free places

We want our events to remain affordable and accessible so we will always reserve a number of free places for those that find the price prohibitive - no catches, no questions, we trust you and want to support you.

This event is part of our Green Squirrel celebration - a four day extravaganza of virtual and in person events to celebrate, and thank everyone who has played a part in our work and to bring our community closer together as we embark on an exciting new project. We are very grateful for the support of the Community Fund.

- - - - - - - - - - 

Ymunwch â ni yn yr ardd drefol orau o’i bath am noswaith o swpera, adrodd straeon a chanu.

Pleser yw eich gwahodd i gynulliad arbennig iawn gyda’r Wiwer Werdd yng ngardd drefol greadigol parc sglefrfyrddio Spit and Sawdust. Beth am ddod at ein gilydd i fyfyrio ar y gorffennol ac edrych ymlaen at obeithion a phosibiliadau’r dyfodol.

Yn ystod y digwyddiad cewch fwynhau pitsa blasus a goginiwyd ar dân coed gan Spit and Sawdust, yn ogystal â detholiad o straeon gan ein storïwr Tamar, arddangosiad coginio byw gan Lia o Lia’s Kitchen, a chanu a pherfformio gwych gan gôr Oasis.

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly bachwch eich tocyn yn ddi-oed; ac os dewiswch, gallwch roi cyfraniad ariannol er mwyn helpu aelod arall o’r gymuned i fynychu am ddim.

Cadw pawb yn ddiogel

Wrth gwrs, rydym yn hapus dros ben o allu cynnal digwyddiad yn y cnawd, ond rydym eisiau sicrhau ein bod yn cadw ein cymuned yn ddiogel. Nifer cyfyngedig o bobl a all gymryd rhan yn y digwyddiad hwn a byddwn yn dilyn yr holl fesurau diogelwch Covid.

Bydd ein gwirfoddolwyr cyfeillgar yno i’ch croesawu ac i roi gwybod ichi am unrhyw reoliadau Covid sy’n berthnasol i’n digwyddiad. Hefyd, byddwch yn cael e-bost cyn y digwyddiad gyda’r holl wybodaeth y byddwch ei hangen i fynychu’n ddiogel.

Awydd cymryd rhan, ond ddim yn barod eto i fynychu yn y cnawd?

Sylweddolwn na fydd nifer o aelodau ein cymuned yn barod eto i ymuno â digwyddiadau yn y cnawd, felly er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys rydym yn gobeithio ffrydio rhannau o’r digwyddiad yn fyw a rhannu’r dolenni hynny. Os yw’n well gennych ymuno â’r digwyddiad mewn modd rhithwir, cofrestrwch am rith-docyn ac yna byddwn yn anfon y ddolen ymuno atoch.

Prisiau’r tocynnau a llefydd am ddim:

Rydym eisiau i’n digwyddiadau barhau i fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch, felly byddwn bob amser yn neilltuo nifer o lefydd am ddim ar gyfer pobl sydd o’r farn fod y pris braidd yn ddrud iddynt – dim trapiau, dim cwestiynau, rydym yn eich coelio ac rydym eisiau eich helpu.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ddathliad y Wiwer Werdd – strafagansa bedwar diwrnod yn llawn rhith-ddigwyddiadau a digwyddiadau yn y cnawd i ddathlu a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith, a dod â’n cymuned yn nes at ei gilydd wrth inni gychwyn ar brosiect newydd cyffrous.

Diolch o galon i’r Gronfa Gymunedol am ei chymorth.